Fyth, fyth rhyfedda’ i’r cariad
yn nhragwyddoldeb pell,
a drefnodd yn yr arfaeth
im etifeddiaeth well
na’r ddaear a’i thrysorau,
a’i brau bleserau ‘nghyd;
fy nghyfoeth mawr na dderfydd
yw Iesu, Prynwr byd.
Ar noswaith oer fe chwysai
y gwaed yn ddafnau i lawr,
ac ef mewn ymdrech meddwl
yn talu’n dyled fawr;
fe yfai’r cwpan chwerw
wrth farw ar y pren;
palmantodd ffordd i’r bywyd
o’r ddaear hyd y nen.
Tragwyddol glod i’r cyfiawn
fu farw dros fy mai;
fe atgyfododd eilwaith
o’r bedd i’m cyfiawnhau;
ar orsedd ei drugaredd
mae’n dadlau yn y ne’
ei fywyd a’i farwolaeth
anfeidrol yn fy lle.
MORGAN RHYS, 1716-79
(Caneuon Ffydd 510)
PowerPoint