logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Grym y Groes (O am weld y wawr)

O am weld y wawr ar y t’wyllaf ddydd;
Crist ar ei ffordd i Galfari.
Barnwyd gan y byd Yna’i guro’n friw
A’i roi ar groes o bren,

O’r fath rym – grym y Groes
Oen ein Duw’n diodde loes.
Dig y nef arno ef,
I’n gael maddeuant wrth ei groes.

O am weld y poen
Sgythrwyd ar dy wedd
Dan bwysau baich fy mhechod i.
Pob un meddwl drwg
Pob un gweithred gas
Fel draenen yn dy ben.

Golau dydd sy’n ffoi,
Cryna’r ddaear oll
Wrth i’w Gwneuthurwr grymu pen.
Rhwyga’r llen yn ddwy
Cod y meirw’n fyw,
‘Gorffennwyd!’ yw ei floedd.

Yn ei glwyfau ef
Cuddio wnaf byth mwy,
Am iddo ddioddef, rwyf yn rhydd.
Concrodd angau du,
Ac yn awr caf fyw
Trwy ras rhyfeddol Duw.

O’r fath rym – grym y groes
Oen ein Duw’n diodde loes.
Dig y nef arno ef,
I’n gael maddeuant wrth ei groes.

The Power of the Cross.(O to see the dawn): Stuart Townend & Keith Getty, Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones
Copyright © and in this translation 2005 Thankyou Music/Adm. by CapitolCMGPublishing.com excl. UK & Europe, adm. by Integritymusic.com, a division of David C Cook songs@integritymusic.com Used by permission

PowerPoint youtube

 

  • Gwenda Jenkins,
  • June 8, 2015