Gwêl ar y croesbren acw
gyfiawnder mawr y ne’,
doethineb a thrugaredd
yn gorwedd mewn un lle,
a chariad anfesurol
yn awr i gyd yn un
fel afon fawr, lifeiriol
yn rhedeg at y dyn.
Cynefin iawn â dolur
a Gŵr gofidus fu,
er dwyn tangnefedd rhyfedd
ac iechyd llawn i ni;
fe ddygodd ein doluriau
a’n clwyfau bob yr un,
trwy rym tragwyddol gariad,
o fewn ei gorff ei hun.
Ac yna atgyfododd
yn ogoneddus iawn,
daeth bore teg a hyfryd
‘n ôl stormus, ddu brynhawn:
fe dorrodd rym yr angau,
agorodd ddrysau’r bedd,
balmantodd ffordd o’r ddaear
yn awr i ganol hedd.
Y mae ef heddiw’n eistedd
ar ei orseddfainc fawr,
Yn Arglwydd ac yn Geidwad
i weiniaid gwael y llawr;
ei hun mae’n llywodraethu
y dyfnder mawr a’r nef,
a therfyn eitha’r ddaear
sydd dan ei ofal ef.
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 504; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 313)
PowerPoint