Gwŷr y ffydd, dewch codwch gân,
Cenwch glod i’r Arglwydd glân;
Os yn wan, cewch nerth y nef,
Nid oes gwendid ynddo Ef.
Bloeddiwch ar bobloedd y byd,
Cenwch i’r gwledydd i fyd:
Iesu’r Gwaredwr yw Ef,
Arglwydd daear a nef.
Bloeddiwch ar bobloedd y byd.
Codwch wragedd yn y ffydd,
Rhoddwch gân i lonni’r dydd;
Pwy a ŵyr am nerth ein Duw?
Onid brenin cariad yw?
Buom trwy dân, buom trwy law,
Purodd dy enw ein calon yn llawn;
Syrthiom mewn cariad dyfnach â thi,
Llosgodd dy Air ynom ni.
Codwn bawb yn eglwys gref
A llawenydd yn ein llef;
Canwn fawl i’n Harglwydd ni,
Trwy ei ras fe godwn fry.
Bloeddiwch ar bobloedd y byd,
Cenwch i’r gwledydd i gyd:
Iesu’r Gwaredwr yw Ef,
Arglwydd daear a nef.
Arglwydd daear a nef.
Martin Smith:Men of faith, cyfieithiad awdurdodedig: Tudur Hallam
© 1995 Curious? Music UK. Gweinyddir gan Kingsway’s Thankyou Music.
(Grym Mawl 2: 94)
PowerPoint