logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Hyd byth

Rhowch fawl i frenin dae’r a nef;
Ei gariad sydd byth bythoedd.
Doeth a da, uwch pawb yw Ef;
Ei gariad sydd byth bythoedd.
Canwch fawl, canwch fawl.

 breichiau cryf a chadarn law;
Ei gariad sydd byth bythoedd.
Arwain mae trwy siom a braw;
Ei gariad sydd byth bythoedd.
Canwch fawl, canwch fawl.
Canwch fawl, canwch fawl.

Hyd byth mae Duw yn ffyddlon,
Hyd byth mae’n Gadarn Iôr,
Hyd byth mae’n aros ‘da ni,
Hyd byth, hyd byth.

O doriad gwawr tan fachlud haul,
Ei gariad sydd byth bythoedd.
Mae’i ras a’i ofal yn parhau,
Ei gariad sydd byth bythoedd.
Canwch fawl, canwch fawl.
Canwch fawl, canwch fawl.

Forever: Chris Tomlin,
Cyfieithiad Awdurdodedig: Phil ac Angharad Elis
Copyright © CapitolCMGPublishing.com

PowerPoint