logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

I Dduw bo’r gogoniant! (Cyfieithiad Grym Mawl)

I Dduw bo’r gogoniant!
Mawr bethau a wnaeth!
Cans carodd a rhoddodd ei Fab dros y caeth;
Rhoes yntau ei fywyd yn iawn dros ein bai,
Agorodd borth Bywyd i bawb yn ddi-lai.

Clod i Dduw! Clod i Dduw!
Aed trwy’r ddaear ei lef!
Clod i Dduw! Clod i Dduw!
Llawenhaed tyrfa gref!
O! dewch at Waredwr,
Trwy’r Mab at y Tad:
Rhowch iddo’r gogoniant!
Mawr bethau a wnaed!

O! berffaith achubiaeth,
Drud bwrcas y gwaed,
I bob un a gredo addewid Duw Dad;
I’r ffiaidd droseddwr, yr Iesu a rydd
Lawn bardwn ar unwaith,
Pan gaffo wir ffydd.

Fe wnaeth bethau mawrion,
Fe’n dysgodd yn wiw,
A mawr ein gorfoledd,
Trwy Iesu, Fab Duw;
Ond mwy ein rhyfeddod,
Sancteiddiach ein clod,
Pan welwn yr Iesu ryw ddydd uwch y rhod.

Fanny J. Crosby: To God be the glory, cyfieithiad awdurdodedig:. E. H. Griffiths

(Grym mawl 1: 162)

PowerPoint youtube