I ti, O Dad addfwynaf,
fy ngweddi a gyflwynaf
yn awr ar derfyn dydd:
O derbyn di fy nghalon,
mewn hawddfyd a threialon
yn gysgod bythol imi bydd.
Pob gras tydi a feddi
i wrando ar fy ngweddi,
clyw nawr fy llef, O Dad;
na chofia fy ffaeleddau,
a maddau fy nghamweddau,
dy fendith, Arglwydd, dyro’n rhad.
JOHN HUGHES, 1896-1968 © Delun Callow. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 785)
PowerPoint