Draw yn nhawelwch Bethlem dref daeth baban bach yn Geidwad byd; doethion a ddaeth i’w weled ef a chanodd angylion uwch ei grud: draw yn nhawelwch Bethlem dref daeth baban bach yn Geidwad byd. Draw yn nhawelwch Bethlem dref nid oedd un lle i Geidwad byd; llety’r anifail gafodd ef am nad oedd i’r baban […]
I ti, O Dad addfwynaf, fy ngweddi a gyflwynaf yn awr ar derfyn dydd: O derbyn di fy nghalon, mewn hawddfyd a threialon yn gysgod bythol imi bydd. Pob gras tydi a feddi i wrando ar fy ngweddi, clyw nawr fy llef, O Dad; na chofia fy ffaeleddau, a maddau fy nghamweddau, dy fendith, Arglwydd, […]
Sisialai’r awel fwyn dros fryn a dôl o gwmpas Bethlehem ‘mhell, bell yn ôl; ŵyn bach mor wyn â’r ôd branciai yn ffôl, gwyliai’r bugeiliaid hwy ‘mhell, bell yn ôl. Sisialai’r awel fwyn dros fryn a dôl o gwmpas Bethlehem, ‘mhell, bell yn ôl. Canai angylion llon uwch bryn a dôl fwyn garol iddo ef […]