Iesu, mae d’enw uwch pob enw sydd,
Nerthol Dduw, T’wysog Hedd, Gwaredwr.
Iesu, fe’th garaf di yn fwy bob dydd,
F’Arglwydd i,
‘Rwyf am d’adnabod di yn well.
Gwêl yma fôr o fawl –
Cwyd o ddwfn fy nghalon, tyrr fel ton ar don
Wrth d’addoli Di.
Carwr f’enaid i, Crëwr y cyfanfyd,
Ti a dim ond Ti haedda’r clod i gyd.
Iesu, dim ond im glywed d’enw di,
Llenwir fi; O! am gael d’adnabod.
Iesu, cyhoeddi wnaf, ‘Ti yw fy Nuw!’,
Fy Arglwydd byw,
‘Rwyf am d’adnabod di yn well.
(Grym Mawl 2: 78)
David Hadden: Jesus, the name above all other names,
Cyfieithiad Awdurdodedig: Casi Jones
Hawlfraint © 1997 Restoration Music Ltd.
Gweinyddir gan Sovreign Music UK