Llawn o ofid, llawn o wae,
A llawn euogrwydd du,
Byth y byddaf yn parhau
Heb gael dy gwmni cu;
Golwg unwaith ar dy wedd
A’m cwyd i’r lan o’r pydew mawr;
O! fy Nuw, nac oeda’n hwy,
Rho’r olwg imi’n awr.
‘Mofyn am orffwysfa glyd,
Heb gwrdd â stormydd mwy;
Lloches nid oes yn y byd
At hyn ond yn dy glwy’;
Tro fy ngolwg at y fan
Y llaesa f’ofnau oll a’m braw;
Fythol na ddychrynwyf weld
Y bore-ddydd a ddaw.
Collais y Baradwys wiw
A’m nerth i’r hyn sy dda:
Llawn wyf heddiw, ŵyr fy Nuw,
O bob andwyol bla;
At y Nef apelio’r wyf,
Cans yno mae fy nghartref llon,
Ac ar fynydd Calfari
Mae dechrau ‘nhaith i hon.
William Williams (1717-1791)
(Llawlyfr Moliant Newydd: 706)