Mae ‘ngolwg acw tua’r wlad
lle mae fy heddwch llawn:
O am gael teimlo’i gwleddoedd pur
o fore hyd brynhawn.
‘Does dim difyrrwch yma i’w gael
a leinw f’enaid cu
ond mi ymborthaf ar y wledd
sy gan angylion fry.
‘Ddiffygia’ i ddim, er cyd fy nhaith
tra pery gras y nef,
ac er cyn lleied yw fy ngrym,
mae digon ynddo ef.
Mae’r iachawdwriaeth fel y môr,
yn chwyddo fyth i’r lan,
mae yma ddigon, digon byth
i’r truan ac i’r gwan.
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 680; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 48 )
PowerPoint