Marchoga’r Arglwydd mewn gogoniant,
Rhyfeddol yw ei harddwch Ef,
Cyfiawnder a gwirionedd sanctaidd,
Myrddiynau sy’n ei ddilyn Ef.
O diolchwch i Dduw am y cariad sy’n,
O diolchwch i Dduw am y cariad sy’n,
O diolchwch i Dduw am y cariad sy’n
Dragwyddol, dragwyddol.
Dacw ei fyddin yn mynd allan,
Llawenydd sydd yn llenwi’r tir
Am fod ei deyrnas yn dynesu,
A chariad Duw yw’r neges glir.
Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones,
The Lord is marching out (O give thanks): Graham Kendrick
Hawlfraint © 1986 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music (tym@kingsway.co.uk) Defnyddir trwy ganiatâd
(Grym mawl 1: 152)
PowerPoint