Mor brydferth ar y bryniau
ydyw traed yr hwn
Sy’n dwyn Gair Duw, Gair Duw,
Cyhoeddwr hedd yn datgan gwir lawenydd
Duw sy’n ben, Duw sy’n ben!
Duw sy’n ben, Duw sy’n ben.
Duw sy’n ben, Duw sy’n ben.
Chwi wylwyr,
cyd-ddyrchafwch nawr eich lleisiau ynghyd
Er clod i’r Iôr, i’r Iôr.
Cewch weld yr Arglwydd
dychwelyd Seion,
Duw sy’n ben, Duw sy’n ben!
Lle bu anialwch gynt, yn awr dyrchefir cân,
Ymwared ddaeth, fe ddaeth.
Yr Arglwydd a’n hachubodd a’n cysuro oll,
Duw sy’n ben, Duw sy’n ben!
Holl gyrrau’r ddaear,
gwelwch iachawdwriaeth Duw,
Iesu yw’r Iôr, yw’r Iôr.
Diosgodd ef ei sanctaidd fraich
yng ngwydd y byd:
Duw sy’n ben, Duw sy’n ben!
Cyfieithiad Awdurdodedig: Siôn Aled, How lovely on the mountains (Our God reigns): Leonard E Smith Jnr
© 1974, 1978 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. Gan worshiptogether.com songs
ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music (tym@kingsway.co.uk) Defnyddir trwy ganiatâd
(Grym Mawl 1: 58)
PowerPoint