Mor fendigedig, o! Mor wych,
Ydyw cariad Duw;
Rhydd iachâd a maddeuant –
Rhyfeddol yw!
Dewch bawb i ddathlu
cariad Duw yn ddyn –
Awn i rannu gair y cymod,
Rhannu gobaith i bob un.
A chyhoeddwn fod ei deyrnas wedi dod;
Dewch ymunwn yn yr anthem
Sydd drwy’r tir yn seinio’i glod.
Clywch y gân o foliant sy’n atseinio drwy y tir;
Llawenydd, gorfoledd,
Heddwch Duw yw’n neges glir.
Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones. How Wonderful, Dave Bilbrough
© 1994 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. gan worshiptogether.com songs
ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd
(Grym Mawl 2: 53)
PowerPoint