Nefol dad ni allaf ddeall
sut y medrais i fodoli
Am gyhyd heb wybod
am dy gariad grymus di.
Ond nawr dy blentyn annwyl wyf,
derbyniais Ysbryd y mabwysiad;
Wnei di byth fy ngadael i,
can’s trigo ’rwyt o fewn fy nghalon.
Fe’th addolaf Arglwydd,
Fe’th ganmolaf Arglwydd,
Fe’th ddyrchafaf Arglwydd,
Ti yw fy Nuw!
Fe’th gyffesaf Arglwydd,
Fe’th arddelaf Arglwydd,
Fe’th ddilynaf di,
Mawrygaf di’n ddibaid.
Cyfieithiad Cymraeg Awdurdodedig: Susan Williams
(Father God I wonder, Ian Smale)
Hawlfraint © 1984 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. gan worshiptogether.com songs
ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music (tym@kingsway.co.uk)
Defnyddir trwy ganiatâd
(Grym Mawl 1: 30)
PowerPoint