O Dduw ein Iôr, bendigedig ydwyt ti,
Y ddae’r sy’n llawn o’th ogoniant.
O Dduw ein Iôr, mor drugarog ydwyt ti;
Mor hardd, mor wych,
ac mor ddyrchafedig.
Fe’th ddyrchafwn di, fe’th ddyrchafwn di
Orseddog Iôr yn Seion.
Fe’th ddyrchafwn di, fe’th ddyrchafwn di
Orseddog Iôr yn Seion.
O Dduw ein Tad, mor haelionus ydwyt ti;
Teyrnasu’n gyfiawn wyt ein Harglwydd.
O Dduw ein Tad,
y nefoedd sydd yn datgan mawl;
Rhyw ddydd fe blyg pob glin o’th flaen di.
O Dduw ein Tad,
y byd a grewyd drwy dy Air,
Yr hollfyd ynot sy’n cydsefyll.
Clodforwn nawr dy enw di,
a’r Gair yn gnawd;
Addolwn, bloeddiwn ‘Haleliwia!’
Cyfieithiad Awdurdodedig: Susan Williams, O Lord our God (We will magnify): Phil Lawson Johnston
© 1982 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. Gan worshiptogether.com songs
ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music (tym@kingsway.co.uk) Defnyddir trwy ganiatâd
(Grym Mawl 1: 126)
PowerPoint