O tyn
y gorchudd yn y mynydd hyn;
llewyrched Haul Cyfiawnder gwyn
o ben y bryn bu’r addfwyn Oen
yn dioddef dan yr hoelion dur,
o gariad pur i mi mewn poen.
Ble, ble
y gwnaf fy noddfa dan y ne’,
ond yn ei glwyfau dyfnion e’?
Y bicell gre’ aeth dan ei fron
agorodd ffynnon i’m glanhau:
‘rwy’n llawenhau fod lle yn hon.
Oes, oes,
mae rhin a grym yng ngwaed y groes
i lwyr lanhau holl feiau f’oes;
ei ddwyfol loes a’i ddyfal lef
mewn gweddi drosof at y Tad
yw fy rhyddhad a’m hawl i’r nef.
HUGH JONES, 1749-1825
(Caneuon Ffydd 525)
PowerPoint