Rhowch i’r Arglwydd yn dragywydd
Foliant, bawb sydd is y nen;
Wele’r Iesu’n dioddef, trengi’n
Aberth perffaith ar y pren;
Concwest gafwyd, bywyd roddwyd,
Mewn gogoniant cwyd ein Pen.
Dynion fethant, Crist yw’n haeddiant,
Ef yw’n glân gyfiawnder pur;
Crist yr Arglwydd yn dragywydd
Sy’n dwyn rhyddid o’n holl gur;
Rhydd in’ bardwn; etifeddwn
Fywyd, hedd, llawenydd gwir.
Gafael pechod sydd yn darfod;
Pen y ddraig yn ysig sydd.
Collodd angau du ei ofnau;
Drysau uffern wnaed yn rhydd;
Dryllia’r Meichiau garchar angau;
Ar y bedd daeth golau ddydd.
Am dosturi heddiw inni,
Cenwch glod i Dduw ein Tad,
Ac i’r Ceidwad am ei gariad,
Gwir Fab Duw a Brenin mad;
Mawl i’r Ysbryd, dwg in’ fywyd,
Drwy gyfiawnder Crist, yn rhad.
Venantius Fortunatus: Praise the saviour, Cyfieithwyd: Dafydd M Job
PowerPoint