Yng Nghrist ei Hun mae ‘ngobaith i,
Ef yw fy haul, fy nerth, fy nghân;
Mae’n gonglfaen, mae’n dir mor gryf,
Craig yw i mi mewn dŵr a thân.
Ei gariad pur, Ei heddwch mawr,
‘Does ofn i mi nac ymdrech nawr!
Fy nghysur yw, fy oll yn oll,
Yng nghariad Crist mae’n sicrwydd i.
Yng Nghrist ei Hun! – a wisgodd gnawd,
Llawnder fy Nuw mewn baban bach!
Mae’n anrheg serch, mae’n berffaith Iawn,
Er maint y gwawd gan wŷr ei wlad:
Nes ar y Groes bu farw Ef,
Gan lwyr fodloni llid y Nef –
Can’s rhoddwyd arno bob un bai;
Yn angau Crist mae ‘mywyd i.
Rhaid rhoi ei gorff dan gaead bedd,
Nos ddu yn lladd Goleuni’r byd:
Ond llifodd gras yn afon gref –
Cododd y Crist, mae’n fyw o hyd!
Tra saif mewn buddugoliaeth fry,
Mae pechod wedi’m gollwng i,
Rwy’n eiddo Ef, Mae’n eiddo fi –
Ym mhrynedigaeth gwaed fy Nghrist.
Nid euog wyf, ‘does ofn i’r bedd,
Dyma yw’r grym sydd ynof fi;
Mae ‘mywyd oll yn eiddo Ef,
Iesu sy’n arwain, minnau’n rhydd.
‘Wnaiff ystryw dyn, nac uffern fawr
Oddi wrtho ‘nhynnu fyth i lawr,
Nes daw yn ôl, neu ‘ngalw i dre,
Yng ngrym fy Nghrist mi safaf fi.
In Christ Alone: Stuart Townend, Cyfieithiad Awdurdodedig: Phil ac Angharad Elis
Copyright © and in this translation 2002 Thankyou Music/Adm. by CapitolCMGPublishing.com excl. UK & Europe, adm. by Integritymusic.com, a division of David C Cook songs@integritymusic.com Used by permission