Yr afon a lifodd rhwng nefoedd a llawr,
Yw gwraidd fy ngorfoledd a’m cysur yn awr;
Calfaria roes haeddiant, Calfaria roes hedd;
Calfaria sy’n cadw agoriad y bedd.
Mae angau ei hunan, ei ofnau a’i loes,
Mewn cadwyn gadarnaf yn rhwym wrth dy Groes;
Allweddau hen uffern ddychrynllyd i gyd
Sy’n hongian wrth ystlys Iachawdwr y byd.
Nid oedd a ostegai bob terfysg a loes,
Cydwybod a’i dychryn, ond angau dy Groes;
Can’ miloedd oedd ynof o ofnau’n gytûn
Nes clywed bod Crëwr y ddaear yn ddyn.
Wel, bellach, boed imi roi ffarwel i’r byd,
Ffarwel i’w drysorau a’i bleser ynghyd;
Un gorchwyl sydd gennyf fyth mwyach i gyd,
Sef caru a chanu i Iachawdwr y byd.
William Williams (1717-1791)
(Llawlyfr Moliant Newydd: 694)