Daw ymchwydd mawr o bedwar ban,
Pellafoedd byd, mewn llawer man;
Lleisiau cytûn, calonnau’n un,
Yn canu clod i Fab y Dyn.
‘Mae’r pethau cyntaf wedi bod’:
Mae heddiw’n ddydd i ganu clod,
Rhyw newydd gân am nefol ras
Sy’n cyffwrdd pobl o bob tras.
Gadewch i holl genhedloedd byd
Ateb y gri a chanu ‘nghyd –
‘Sanctaidd yw yr Iôr!
Sanctaidd yw yr Iôr!
Sanctaidd yw yr Iôr!
Sanctaidd yw yr Iôr!”
Rhuad y Llew a’i nerthol lef
Sy’n datgan grym a chariad nef:
Ai’r alwad hon, ai dyma’r pryd
Yr unir Teyrnas nef a’r byd?
Gadewch i holl genhedloedd byd
Ateb y gri a chanu ‘nghyd –
‘Iesu – mae e’n fyw!
Iesu – mae e’n fyw!
Iesu – mae e’n fyw!
Iesu – mae e’n fyw!’
Cyfieithiad Awdurdodedig : Dafydd Timothy, It’s rising up, Matt Redman a Martin Smith
© 1995 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. gan worshiptogether.com songs
ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd
(Grym Mawl 2: 71)
PowerPoint