Pwy o Arglwydd allai byth
Achub nhw eu hun?
Ein c’wilydd oedd fel dyfnder môr,
Dy ras oedd ddyfnach fyth.
A dim ond ti all achub, Ti yw’r unig un;
Dim ond ti all’n codi ni o’r bedd.
Daethost lawr i’n harwain o’r tywyllwch du.
A dim ond ti sy’n haeddu’r clod i gyd.
Do, agoraist ffordd i ni;
Iacháu’r gagendor mawr.
Ac er i’n cl’onnau grwydro’n bell,
Dy gariad aeth tu draw;
Ie, dy gariad aeth tu draw.
Edrychwn arnat ti; edrych arnat ti.
Rhoddaist fywyd i ni.
You alone can rescue: Matt Redman & Jonas Myrin, Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones
Copyright © and in this translation 2009 Thankyou Music/Said & Done Music Adm. by CapitolCMGPublishing.com excl. UK & Europe, adm. by Integrity Music, part of the David C Cook family, songs@integritymusic.com / SHOUT! Music Publishing