Loywaf o’r sêr sydd yn britho’r ffurfafen,
gwasgar ein t’wyllwch, a gwawried y dydd:
seren y dwyrain, rhagflaenydd yr heulwen,
dwg ni i’r fan lle mae’r baban ynghudd.
Gwelwch mor isel ei ben yn y preseb,
disglair yw oerwlith y nos ar ei grud;
moled angylion mewn llety cyn waeled
Frenin, Creawdwr a Cheidwad y byd.
A dalwn ni iddo’r gorau o’n trysor,
llysiau o Edom yn offrwm i’n Duw,
gemau o’r mynydd a pherlau o’r dyfnfor,
myrr o’r anialdir, ac aur o Beriw?
Ofer y ceisiem ei wên ag anrhegion,
ofer â golud y ddaear yn hael:
gwell ganddo gywir addoliad y galon,
gwell gan yr Iesu yw gweddi y gwael.
REGINALD HEBER, 1783-1826 cyf. WILLIAM WILLIAMS, 1806-77
diw J. T. JOB, 1867-1938
(Caneuon Ffydd 458)
PowerPoint