Dragwyddol Dduw, down atat ti,
O flaen dy orsedd fawr.
Fe ddown ar hyd y newydd fywiol ffordd,
Mewn hyder llawn y down.
Datgan dy ffyddlondeb wnawn,
A’th addewidion gwir,
Nesu wnawn i’th lawn addoli di.
(Dynion)
O sanctaidd Dduw, down atat ti,
O sanctaidd Dduw, gwelwn dy ffyddlon gariad mawr,
Dy nerthol fraich, llywodraeth bur,
Heddiw fe’u gwelwn oll yn Iesu aeth i’r groes,
Iesu ddaeth yn fyw,
Iesu sy’n teyrnasu’n y nef.
(Merched)
O Sanctaidd Dduw, llawn cyfiawnder,
Cariad a doethineb, a ffyddlondeb mawr,
Dy nerthol fraich, a’th lywodraeth bur;
Heddiw fe’u gwelwn oll yn Iesu aeth i’r groes drosom ni.
Iesu atgofododd o’r bedd,
Iesu sy’n teyrnasu’n y nef.
(Grym Mawl 1: 28)
David Fellingham: Eternal God, Cyfieithiad Awdurdodedig: Catrin Alun
Hawlfraint © Thankyou Music 1983.