Dyma fi o dy flaen
Â’m calon ar dân.
Gwn dy fod Ti yn clywed pob cri –
Rwyt ti’n gwrando.
Er ‘mod i mor wael, mae’th ras mor hael –
Rwyt ti’n ffyddlon i’m hateb
A geiriau sy’n wir, gyda gobaith sy’n glir.
Cyffwrdd fi, O! Dduw;
Torra’r cadwynau a gwna fi yn rhydd,
Ac yn hafan y lle hwn fe ganaf â’m
Calon ar dân – ‘O Dduw rwy’n dy garu!’
Calon ar dân – ‘Mae f’hiraeth amdanat!’
Calon ar dân, i ddweud, ‘Diolch i ti!’
Calon ar dân – ‘Fy Arglwydd a’m Duw wyt ti!’
Here I am once again, Craig Musseau, cyfieithiad awdurdodedig: Casi Jones
© 1994 Mercy/Vineyard Publishing. Gweinyddir gan CopyCare
(Grym Mawl 2: 48)
PowerPoint