Mor fawr yw cariad Duw y Tad,
Ni ellir byth ei fesur;
Fe roddodd ef ei Fab yn Iawn
I achub gwael bechadur.
Does neb all ddirnad maint ei boen,
Pan guddiodd Duw y Tad ei wedd;
Aeth t’wyllwch dudew drwy y tir
Er mwyn i’n gael tangnefedd.
Mor rhyfedd yw ei weld ar groes,
Yn marw ar Galfaria;
A chlywed sgrech fy llais fy hun
Yn gwawdio gyda’r dyrfa.
Fy mhechod oedd y bicell fain
A’r hoelion dur a’r goron ddrain;
Ond clywais lais maddeuant rhad
O’i enau glân yn atsain.
Does dim ymffrostiaf ynddo mwy,
Na dawn, na dim drwy’r cread;
Ymffrostio wnaf yn Iesu Grist,
Ei groes a’i atgyfodiad.
Diolchaf mwy am brofi’i ras –
Pam fi? Ni wn, ond dyma’i rodd;
Ni wneuthum ddim i haeddu hyn –
Ei aberth ef a’m prynodd.
Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, How deep the Father’s love, Stuart Townend
© 1995 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. gan worshiptogether.com songs
ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music
tym@kingsway.co.ukDefnyddir trwy ganiatâd
(Grym Mawl 2: 51)
PowerPoint