Yr hollalluog Dduw, ein Tad nefol,
Fe bechasom yn d’erbyn Di
Ac yn erbyn ein cyd-ddyn,
Mewn meddwl, gair a gweithred,
Trwy ddiofalwch, trwy wendid,
A thrwy’n bai bwriadol ni.
Mae yn ddrwg iawn gennym,
Edifeiriol yw ein cri;
Er mwyn enw dy Fab Iesu Grist
Fu farw,
Fu farw.
Er mwyn i ni gael byw,
O maddau bopeth a fu,
A gad in dy wasanaethu
 chalon lân a phur,
Er gogoniant d’enw Di, (Dynion)
Er gogoniant d’enw Di, (Merched)
Er gogoniant d’enw Di, (Dynion)
Er gogoniant d’enw Di, (Merched)
Er gogoniant d’enw Di, (Pawb)
Amen, amen.
(Grym Mawl 1: 8)
Chris Rolinson: Almighty God our Heavenly Father, Cyfieithiad Awdurdodedig: Catrin Alun
Hawlfraint © Central Board of Fincance/Thankyou Music 1980/1987