Cododd Iesu! Haleliwia, haleliwia! Cododd Iesu! Cododd yn wir, haleliwia! Cariad a ddaeth, Gorchfygu a wnaeth, Collodd marwolaeth ei fri. O’r bedd yn fyw Am byth gyda Duw, Iesu ein Harglwydd a’n Rhi. Arglwydd yw Ef Dros bechod a’r bedd; Satan a syrth wrth ei draed! Ein Harglwydd sydd fawr, Pob glin blyga’i lawr – […]
Iesu, anfon weithwyr lu, O, mae eu hangen hwy. Mae’r tir yn barod i’w fedi, Y caeau’n aeddfed mwy. Ond Arglwydd cymer fi, Iesu, o cymer fi. Pwy a â drosot ti? Pwy a â drosot ti? Dyma fi nawr – Af fi, ie fi, Iôr, Af fi. O na welem Gymru’n troi Yn dyrfa […]
O adfer, Dduw, anrhydedd d’enw drud, Dy rym brenhinol nerthol A’th fraich a sigla’r byd, Nes dod a dynion mewn parchedig ofn At y bywiol Dduw – Dy Deyrnas fydd yn para byth. O adfer, Dduw, dy enw ym mhob man, Diwygia’th eglwys heddiw Â’th dân, cod hi i’r lan. Ac yn dy ddicter, Arglwydd, […]
Torrwn y bara i rannu o gorff Crist yn awr. (Dynion) Torrwn y bara i rannu o gorff Crist yn awr. (Merched) Ry’m ni yn llawer, ond un yw’r corff, Ac felly’n bwyta a rhannu o’r un dorth. (Ailadrodd) Yfwn o gwpan cyfamod trugaredd ein Duw. (Dynion) Yfwn o gwpan cyfamod trugaredd ein Duw. (Merched) […]
Yr hollalluog Dduw, ein Tad nefol, Fe bechasom yn d’erbyn Di Ac yn erbyn ein cyd-ddyn, Mewn meddwl, gair a gweithred, Trwy ddiofalwch, trwy wendid, A thrwy’n bai bwriadol ni. Mae yn ddrwg iawn gennym, Edifeiriol yw ein cri; Er mwyn enw dy Fab Iesu Grist Fu farw, Fu farw. Er mwyn i ni gael […]