Diolch am Y Groes,
Y pris a dalaist ti.
Rhoddaist ti dy hun,
Rhoi y cyfan,
Werthfawr Iôr, (werthfawr Iôr).
Ein pechodau ni
A faddeuwyd,
Cuddiwyd gan dy waed,
fe’u hanghofiwyd,
Diolch Iôr, (diolch Iôr).
O, fe’th garaf di,
Arglwydd caraf di,
Alla’i fyth a deall
Pam y ceri fi.
Ti yw ‘nghyfan oll,
Llanw nghalon wnei,
Ond yn bennaf un,
O Arglwydd, gwelaf i:
Ti’n fy ngharu i!
Dioddef wnaethost ti
I’n hiachau yn llwyr,
A dileu ein hofnau
Trwy dy gariad,
Werthfawr Iôr (werthfawr Iôr).
Gwaith Calfaria wnaed,
Buddugoliaeth gaed,
Trwy dy werthfawr waed
Achub wnaethost ti.
Diolch Iôr, (diolch Iôr).
Thank you for the cross (Oh I love you Lord): Graham Kendrick, cyfieithiad awdurdodedig: Catrin Alun
© 1985 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. Gan worshiptogether.com songs
ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music (tym@kingsway.co.uk) Defnyddir trwy ganiatâd
(Grym Mawl 1: 151)
PowerPoint