O adfer, Dduw, anrhydedd d’enw drud,
Dy rym brenhinol nerthol
A’th fraich a sigla’r byd,
Nes dod a dynion mewn parchedig ofn
At y bywiol Dduw –
Dy Deyrnas fydd yn para byth.
O adfer, Dduw, dy enw ym mhob man,
Diwygia’th eglwys heddiw
Â’th dân, cod hi i’r lan.
Ac yn dy ddicter, Arglwydd, bydd yn raslon,
O fywiol Dduw –
Dy ras di sydd yn para byth.
Plyg ni, o Dduw, o’n hoerni todda ni,
Dy buredigol fflamau
A goetha’r aur i ti.
Er dyfod poen a drwg sy’n llechu ’nghudd,
Eto’r bywiol Dduw –
Deyrnasa mewn tragwyddol ddydd.
Cyfieithiad Awdurdodedig: Catrin Alun, Restore, O Lord: Graham Kendrick a Chris Rolinson
© 1981 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. Gan worshiptogether.com songs
ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music (tym@kingsway.co.uk) Defnyddir trwy ganiatâd
(Grym mawl 1: 143)
PowerPoint