O ddedwydd awr tragwyddol orffwys oddi wrth fy llafur yn fy rhan yng nghanol môr o ryfeddodau heb weld terfyn byth na glan; mynediad helaeth byth i bara o fewn trigfannau Tri yn Un, dŵr i’w nofio heb fynd drwyddo, dyn yn Dduw, a Duw yn ddyn. Melys gofio y cyfamod draw a wnaed gan […]
O’m blaen mi welaf ddrws agored, a modd i hollol gario’r maes, yng ngrym y rhoddion a dderbyniodd yr hwn gymerodd agwedd gwas; mae’r t’wysogaethau wedi’u hysbeilio a’r awdurdodau ganddo ynghyd, a’r carcharwr yn y carchar drwy rinwedd ei ddioddefaint drud. Fy enaid trist, wrth gofio’r frwydyr, yn llamu o lawenydd sydd, gweld y ddeddf […]
Rhyfedd, rhyfedd gan angylion, rhyfeddod mawr yng ngolwg ffydd, gweld Rhoddwr bod, Cynhaliwr helaeth a Rheolwr popeth sydd yn y preseb mewn cadachau a heb le i roi’i ben i lawr, eto disglair lu’r gogoniant yn ei addoli’n Arglwydd mawr. Pan fo Sinai i gyd yn mygu, a sŵn yr utgorn ucha’i radd, caf fynd […]
Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd wrthrych teilwng o’m holl fryd, er mai o ran yr wy’n adnabod ei fod uwchlaw gwrthrychau’r byd: henffych fore y caf ei weled fel y mae. Rhosyn Saron yw ei enw, gwyn a gwridog, teg o bryd; ar ddeng mil y mae’n rhagori o wrthrychau penna’r byd: ffrind pechadur, dyma’r […]