Pennill 1 Mae’r Un a fu ac sydd ac eto’i ddod Nawr ar ei orsedd Ef, yn ddyrchafedig fry Mae’r un a ddeil ‘goriadau’r nef am byth Mae perffaith Oen ein Duw yn ddyrchafedig fry Corws Sanctaidd sanctaidd sanctaidd sanctaidd Sanctaidd yw yr Hollalluog Teilwng teilwng teilwng teilwng Teilwng yw yr Hollalluog Pennill 2 Mae’r […]
Pennill 1 Roedd fy ymdrechion i gael boddhad Yn wag ac ofer Nes i dy gariad fy llenwi i Wrth ddod i’m hachub Rhag-gytgan F’enaid cân, nawr f’enaid cân Cytgan O sicrwydd bendigaid Gaf ynot Ti, gaf ynot Ti Ni chaf fy ysgwyd, ni’m symudir mwy Dy law sydd mor gadarn I ‘nghadw i, fy […]
Sancteiddrwydd im yw’r Oen di-nam ‘Nghyfiawnder, a’m doethineb, Fy mhrynedigaeth o bob pla, Fy Nuw i dragwyddoldeb. Ces weld mai Ef yw ‘Mrenin da Fy Mhroffwyd a’m Hoffeiriad, Fy Nerth a’m Trysor mawr a’m Tŵr, F’Eiriolwr fry a’m Ceidwad. Ar ochor f’enaid tlawd y bydd Ar fore dydd marwolaeth; Yn ŵyneb angau mi wnaf ble, […]
O canwch i’r Arglwydd gân newydd, ei seintiau, Ym mrenin a chreuwr y byd, llawenhewch! A molwch ei enw â dawnsio a chanu, Â thympan a thelyn addolwch, mwynhewch! Oherwydd mae Duw wrth ei fodd gyda’i bobl, Mae’n rhoi gwaredigaeth i’r eiddil a’r gwan, O canwch i’r Arglwydd gân newydd, ei seintiau, Yng nghanol ei […]
Arglwydd, ti sydd wedi fy chwilio i, A’m hadnabod, neb yn well; Gwyddost pryd dw i’n codi neu eistedd lawr, A beth sy’n fy meddwl o bell. Wrth orffwys neu wrth gerdded cam, Rwyt yn gwybod pob dim dwi’n wneud, Rwyt ti’n gwybod, cyn imi agor ceg, Bob gair dw i’n mynd i’w ddweud. Tu […]
Disgwyl bûm i wrth fy Nuw Ac yna plygodd ataf, Cododd fi o’r mwd a’r baw Mae ‘nhraed ar graig: ni faglaf. Rhoddodd yn fy nghalon gân O fawl i’n Duw goruchaf. Bydd llawer un, pan welant hyn, Yn ofni Duw o’r newydd, Gwyn ei fyd yr un sy’n wir Ymddiried yn yr Arglwydd. Ni […]
O fy Arglwydd nefol, Nid balch fy nghalon i, Nid penuchel ydwyf, Na’n ceisio clod a bri, Na’n ymwneud â phethau mawr, Rhy ryfeddol oll i’m rhan, Ond tawelaf f’enaid Fel plentyn gyda’i fam. Geiriau: Cass Meurig (addaswyd o Salm 131) Alaw: Si Hei Lwli (tradd)
O Arglwydd Dduw, ein brenin nefol Mae d’enw di mor fawr ryfeddol Ardderchog wyt dros dir a moroedd Gosodaist d’ogoniant uwch y nefoedd O, Dad annwyl, O, frenin sanctaidd Mor fawr yw dy enw di, Amen Fe godaist noddfa rhag d’elynion  lleisiau plant, nid arfau cryfion Sŵn baban bach ar fron yn gorwedd Dawelodd […]
Sisialai’r awel fwyn dros fryn a dôl o gwmpas Bethlehem ‘mhell, bell yn ôl; ŵyn bach mor wyn â’r ôd branciai yn ffôl, gwyliai’r bugeiliaid hwy ‘mhell, bell yn ôl. Sisialai’r awel fwyn dros fryn a dôl o gwmpas Bethlehem, ‘mhell, bell yn ôl. Canai angylion llon uwch bryn a dôl fwyn garol iddo ef […]
Emyn priodas Seliwr cyfamodau’r ddaear Tyred i’r briodas hon, A chysegra serch y ddeuddyn A’u haddewid ger dy fron; Cadw’r heulwen yn eu calon, Cadw aur y fodrwy’n lân, Ym mhob digwydd a phob gofyn Cadw hwy rhan colli’r gân. Nawdd a tharian ein haelwydydd Ydwyt Ti, O Dad o’r nef, Rho i’r ddau a […]