Y dirion wawr a dorrodd Ar ddynion y cyfododd Haul cyfiawnder; Ym mro a chysgod angau Disgleiriodd ei belydrau Mewn eglurder. Yn awr daeth ei oleuni i lawr Tywyllwch gorddu A orfu chwalu O flaen yr Iesu, Holl lu y fagddu fawr A ffoesant yn ddiaros Fel nos o flaen y wawr. Mewn llwydd, dring […]
Gwawriodd llonder dros y byd, Gwiriwyd Gair y Crëwr: Gwaredigaeth Duw a roed – Gobaith pob preswyliwr. Nid â ffanffer oddi fry, Na gogoniant grasol, Ond rhodd wylaidd cariad pur: Iesu, faban dwyfol. Sain rhyfeddod leinw’r nen Gyda chân yr engyl, Wrth i D’wysog mawr y byd ’Fochel draw mewn stabl. Dwylo gynt fu’n ffurfio’r […]
Pennill 1 Yn ddwfn dan wyneb Fy nychymyg sy’n pryderu Geilw rhyw heddwch Sydd ar gael yn neb ond Ti Ac mae yn golchi Dros f’amheuaeth a’m hamherffeithrwydd Iesu, dy gwmni Ydy cysur f’enaid i Corws Does unman yn well gen i pan Ti’n canu drosof i Yma dw’i am aros ‘da Ti Ar goll […]
Pennill 1 Ysbryd Glân, wynt mor gryf Tân fy Nuw, cyffwrdd fi Ysbryd Glân, anadla arnom ni Pennill 2 Rhaid troi yn ôl, edifarhau Fflam diwygiad mygu mae Wynt fy Nuw, rho dy dân i ni Cytgan 1 Mae angen gwynt ffres Persawr y nefoedd Tywallt D’Ysbryd nawr Tywallt D’Ysbryd nawr Pennill 3 Calonnau sy’n […]
Pennill 1 Pa obaith sydd i ni drwy’n hoes? Dim ond Crist, Crist a’i Groes. Beth yw ein hunig hyder mawr? Eiddo Ef yw’n henaid nawr. Pwy ddeil ein dyddiau yn Ei law? Beth ddaw, heblaw pan dd’wed y gair? A beth a’n ceidw i’r dydd a ddaw? Gwir gariad Crist, Ef yw ein craig. […]
Glywaist ti lais mwyn yr Iesu’n D’alw di i’w ddilyn Ef? Brofaist ti Ei gwmni graslon Enaid, ar dy ffordd tua thref, Gyda chariad cywir, ffyddlon Cariad dwyfol lifa’n rhad, Cariad Ceidwad cyfiawn, rhadlon? Yn Ei groes, tosturi ga’d. Glywaist ti lais mwyn trugaredd Yn rhoi hedd a phardwn pur? Deimlaist ti falm bryn Calfaria’n […]
Mor fawr y bwlch a fu unwaith rhyngom, Mor fawr y mynydd tu hwnt i mi, Ac mewn anobaith, fe drois i’r nefoedd gan ddweud dy enw yn y nos; A thrwy’r tywyllwch, daeth dy haelioni chwalodd gysgodion f’enaid i, Y gwaith ’orffenwyd, y diwedd seliwyd Iesu Grist, fy ngobaith byw. Pwy a ddychmygai y […]
Grym y Gair a roed ar gerdded gam wrth gam drwy wledydd byd wrth i bobloedd glywed datgan yn eu geiriau’r hanes drud: diolch wnawn am bob cyfieithydd a gysegrodd ddawn a gwaith er rhoi allwedd porth dy Deyrnas yn nhrysorfa llawer iaith. Grym y Gair a ysbrydolodd ein cyfieithwyr cynnar ni, a’u holynwyr fu’n […]
[Philipiaid 2, Alaw: Y Gwŷdd] Yr oedd Crist Iesu’n Harglwydd ar ffurf Duw, ar ffurf Duw, Heb geisio gwneud ei hun yn gydradd â Duw, gydradd â Duw. Gwacâodd Ef ei hun, Gan ddyfod ar ffurf dyn, Fel caethwas oedd ei lun, er fod Ef yn Dduw, fod Ef yn Dduw. A phan oedd ar […]
Mae hon yn hen emyn – ond mae cerddoriaeth gyfoes wedi cael ei chyfansoddi ar ei chyfer – dilynwch y ddolen youtube ar waelod y dudalen. Pennill 1 Un dydd gyda’r nefoedd yn orlawn o’i foliant, Un diwrnod â phechod yn ddu fel y fall, Iesu ddaeth atom, fe’i anwyd o forwyn, I fyw yn […]