logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Awdur bod, cariad wyt (Mawr wyt ein Iôr)

Awdur bod, cariad wyt, Rhoddi wawl i’r tywyllwch; Gobaith ddaw drwyddot ti I bob calon ddrylliedig. Mawr wyt, ein Iôr. D’anadl di sy’n ein bron Felly canwn dy glod, Fe ganwn dy glod. D’anadl di sy’n ein bron, Felly canwn ein clod I ti’n unig. Awdur bod, cariad wyt, Rhoddi wawl i’r tywyllwch; Gobaith ddaw […]

  • Rhys Llwyd,
  • March 5, 2025

Ar hanner nos yn glir y daeth

Ar hanner nos yn glir y daeth Y gân nefolaidd gynt; I daro’u tannau plygu wnaeth Angylion ar eu hynt: “Hedd trwy y byd, ewyllys da Tirionaf Frenin nef” – Y ddaear mewn distawrwydd dwys Wrandawai’r hyfryd lef. Trwy byrth y nef daw’r rhain o hyd Ar adain hedd i lawr, A nofia’u mawl o’r […]

  • Rhys Llwyd,
  • November 20, 2024

Agorwch byrth, s’dim rhwystr yn bod

Agorwch byrth, s’dim rhwystr yn bod Mae Arglwydd y Gogoniant yn dod, Daw Brenin y brenhinoedd mawr Yn geidwad i deyrnasoedd y llawr Fe ddaw â iachawdwriaeth lawn; Am hynny dathlwn, canwn fawl: I Ti, fy Nuw, boed clod Fy Nghrëwr doeth a mawr! Mor deilwng yw ein Harglwydd cu Mor addfwyn ydyw gyda ni […]

  • Rhys Llwyd,
  • November 20, 2024

Arwain wnaethost, Dduw, trwy’r Ysbryd

Emyn y Grawys Arwain wnaethost, Dduw, trwy’r Ysbryd D’unig Fab i’r anial maith; yno dysgodd i ymddiried yn Dy ras cyn dechrau’i waith. Gras Dy eiriau drechodd demtasiynau’r sarff. Deugain niwrnod o ymprydio, deugain nos mewn gwewyr llym, i weddnewid trwy dreialon wendid dyn yn ddwyfol rym. Grym Dy eiriau drechodd demtasiynau’r sarff. Arwain ninnau […]

  • Rhys Llwyd,
  • May 1, 2024

Ar y groes

Pennill 1 Ar y groes, ar y groes, lle bu farw gwir Fab Duw, Dyma ras, cariad pur lifa’n rhad o’i ystlys friw. Dirgelwch rhyfedd yw – Bu farw i mi gael byw, aberth perffaith Brenin Nef. Ar y groes, ar y groes, cariad perffaith ar y groes. Pennill 2 Wrth y groes, wrth y […]

  • Rhys Llwyd,
  • May 1, 2024

Arglwydd Iesu, Geidwad annwyl

Arglwydd Iesu, Geidwad annwyl, clyw ein cri ar ran y byd, sŵn rhyfela sy’n y gwledydd sôn am ing a thrais o hyd. O! Na welem heddwch yn teyrnasu byth. O! na chaem ni weld y dyddiau pan fo pawb yn byw’n gytûn; brawd yn caru brawd ym mhobman a phob dyn yn parchu dyn. […]

  • Rhys Llwyd,
  • March 13, 2024

Am mai byw yw Ef

Rhoes Duw Ei Fab – Iesu oedd Hwnnw, I’m caru ddaeth A maddau ’mai. Bu farw’r Oen I brynu ’mhardwn; Bedd cwbl wag Sy’n berffaith dyst I’m Prynwr byw. Am mai byw yw Ef Af ymlaen yfory, Am mai byw yw Ef Ffoi wnaiff pob braw, Am y gwn mai Ef Sy’n dal y dyfodol, […]

  • Rhys Llwyd,
  • January 17, 2024

Ar Dymor Gaeaf

Ar dymor gaeaf dyma’r wyl Sydd annwyl, annwyl in; Boed sain llawenydd ym mhob llu, Waith geni’r Iesu gwyn; Datseinwn glod a llafar don, Rhoed rhai tylodion lef, Gan gofio’r pryd y gwelwyd gwawr Eneiniog mawr y nef! Ar gyfer heddiw Maban mwyn A gaed o’r Forwyn Fair; Ac yno gweled dynol-ryw Ogoniant Duw y […]

  • Rhys Llwyd,
  • January 17, 2024

Awdurdod

Y cread ŵyr y llais a ddaeth i’r gwagle mawr Y gwynt a ddaeth â’r llwch yn fyw a ffurfiodd sêr y nen Mae’r gwyll yn ofni’th lais A’i gyrrodd ef i ffwrdd ac er mai hir yw’r nos, Mi wn yn iawn y gwnei hyn eto nawr Un gair gen Ti Daw newid ar […]

  • Rhys Llwyd,
  • May 10, 2023

Amser dod adre

Pennill 1 Bûm ar goll, (rwy’n) saff yn awr, Ei lais oedd yn ’ngalw nôl Bywyd fu ar chwâl, boddi yn y storm Rhedais oddi wrthyt ti Pennill 2 Yna clywais di’n galw arna i, “Tyrd yn ôl” Rhof fy nyled lawr, cael coron hardd Clywais d’alwad di Pont Yn dy freichiau di Syllaf i’th […]

  • Rhys Llwyd,
  • March 24, 2021