logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O dewch, penliniwch wrth y Groes

O dewch, penliniwch wrth y Groes lle t’walltodd Iesu’i waed, ac arswydwch gymaint oedd y gost i’ch prynu Iddo’n hael. dewch, gwelwch ôl yr hoelion dur a chlywch Ei ingol gri: holl boenau’r Fall fu’n llethu’r Oen er mwyn rhoddi Nef i chi. O gwelwch Frenin mawr y Nef mewn artaith drosom ni. Wedi’i wrthod […]

  • Aled Davies,
  • June 16, 2026

O canwn ganig Bethlehem

O canwn ganig Bethlehem Am fugeiliaid wylient draw, Ac am y newydd gawsant hwy Gan engyl, er eu braw: Y golau gynt dros Fethlehem Lanwo’n hollfyd nawr; Fe gân yr engyl lu hyd byth Am eni Iesu mawr. O canwn ganig Nasareth Am lawen ddyddiau mad, Am bersawr blodau rif y gwlith Ac am ddi-bechod […]

  • Aled Davies,
  • June 10, 2026

O Dduw

Pennill 1 Er weithiau ‘mod i’n teimlo ar chwâl A’r daith yn aml yn unig Beth bynnag ddaw hyd at ddiwedd y ras Rhag-gorws O fe safaf i Lle mae d’obaith di O fe safaf i Lle mae d’obaith di Corws O Dduw, O Dduw mi wn ti’n clywed fy nghri Uwch yr holl g’lwyddau, […]

  • Aled Davies,
  • November 26, 2025

O Wele (Cân F’enaid Cân)

Pennill 1 O Wele galon Tad (Y) dirgelwch y mae’n tywallt arnom ni Fel cri y dwfn i’r dwfn O mor daer ei awydd trosom Mae pethau’r llawr o’i flaen Fel cannwyll ger yr haul Dad sy’n ddi-ffael S’dim fel ei gariad Ef Pennill 2 O Wele’i Sanctaidd Fab Y Llew a’r Oen a roddwyd […]

  • Rhys Llwyd,
  • March 5, 2025

O Ysbryd Glân y bywiol Dduw

O Ysbryd Glân y bywiol Dduw, yn holl helaethrwydd mawr dy ras, ’mhle bynnag troediodd dynol ryw ymwêl â’n hil syrthiedig, fas. Tafodau tân a ch’lonnau cu rho i’n gyhoeddi’r Cymod rhad, eneiniad, grym a sêl ’ddi fry, bob tro y clywir Gair y Tad. Try’r fagddu’n llewyrch wrth it ddod a threfn o ddryswch, […]

  • Rhys Llwyd,
  • March 5, 2025

O’n blaen mae Duw yn myned

O’n blaen mae Duw yn myned Â’i hyfryd bresenoldeb; O! ’r hyder ei addewid rydd Ac nid unig fyddwn byth. Hyd lwybrau, dan gysgodion Nid ofnwn am yfory Ar hyd bob cam, ffyddlondeb Iôr Fydd yn llewyrch ar ein ffordd O’n blaen mae Duw yn myned, Duw’r Lluoedd sy’n ein harbed; Canmolwch Ef – ein […]

  • Rhys Llwyd,
  • November 6, 2024

O Luniwr y ddaear a harddwch ei thir

Yr Argyfwng Hinsawdd O Luniwr y ddaear a harddwch ei thir a chynnyrch beunyddiol ei holl erwau ir, dy gread a’n geilw i newid ein ffyrdd a byw mewn ufudd-dod i ddeddfau byd gwyrdd. Wrth weled fforestydd yn wenfflam dros ddaer, allyriant ein bywyd yn llygru yr aer, a chnydau yn crino, cydnabod a wnawn […]

  • Rhys Llwyd,
  • May 1, 2024

O Iôr, fy Nghraig a fy Ngwaredwr

[Pennill 1] O Iôr, fy Nghraig a fy Ngwaredwr Trysor mwyaf i fy enaid sych Fy Nuw, i Ti does neb yn debyg Ynot Ti yn unig mae mwynhad Dy ras, rhy ddwfn i ni ei blymio Dy serch, helaethach yw na’r nef Gwirionedd, ffynnon pob doethineb F’angen di-ddiwedd a fy ngorau i [Pennill 2] […]

  • Rhys Llwyd,
  • September 29, 2021

O tyrd at yr allor

Wyt ti’n brifo, ‘di dryllio tu fewn? Wedi llethu gan bwysau dy fai? Mae Iesu yn galw. Ydy popeth yr wyt ti ar ben? Sgen ti syched am yfed o’r ffrwd? Mae Iesu yn galw. O tyrd at yr allor, Mae breichiau’r Tad yn awr ar led, Maddeuant a brynwyd â gwerthfawr waed ein Iesu […]

  • Rhys Llwyd,
  • September 9, 2020

O dan Galfaria

Pennill 1 Cymrwn dy fara, cymryd gwin Ac fe gofiwn i ti’n hachub ni ’R un glân yn colli’i werthfawr waed A llifodd cariad lawr o’i goron Ef Cytgan O dan Galfaria, chwalwyd ein maglau Angau a drechwyd, rym ni yn rhydd O dan Galfaria, mae’r gwyll yn crynu Fe safwn ni a dweud ein […]

  • Rhys Llwyd,
  • September 9, 2020