Wele deulu d’Eglwys, Iesu, ger dy fron yn plygu nawr wedi’i lethu gan ei wendid, yn hiraethu am y wawr: taer erfyniwn am gael profi llawnder grym dy Ysbryd Glân dry ein hofn yn hyder sanctaidd, dry ein tristwch oll yn gân. Lle bu ofn yn magu llwfrdra ac esgusion hawdd gyhyd, lle daeth niwloedd […]