O! Arglwydd , clyw fy llef, ‘Rwy’n addef wrth dy draed Im fynych wrthod Iesu cu, Dirmygu gwerth ei waed. Ond gobaith f’enaid gwan, Wrth nesu dan fy mhwn, Yw haeddiant mawr yr aberth drud; Fy mywyd sydd yn hwn. A thrwy ei angau drud Gall pawb o’r byd gael byw: Am hyn anturiaf at […]
Tyrd, Ysbryd Sanctaidd, rho dy wawr, datguddia ddyfnion bethau Duw; eglura inni’r enw mawr a gwna’n heneidiau meirw’n fyw. Gad inni weld, yn d’olau di, fod Iesu’n Arglwydd ac yn Dduw, a than d’eneiniad rho i ni ei ‘nabod ef yn Geidwad gwiw. O’i weled yn d’oleuni clir cawn brofi rhin ei farwol loes a […]