Rho imi, nefol Dad, yr Ysbryd Glân yn awr wrth geisio cofio’r gwerth a gaed yng ngwaed ein Iesu mawr. Gad imi weld y wawr a dorrai ar ei loes a’r heddwch a gofleidiai’r byd yn angau drud y groes. Ei gwpan ef, mor llawn a chwerw ar ei fin, a droes, yn rhin ei […]
Rho in gofio angau Iesu gyda diolchiadau llawn, a chael derbyn o rinweddau maith ei wir, achubol Iawn; bwyta’i gnawd drwy ffydd ddiffuant, yfed gwaed ei galon friw, byw a marw yn ei heddwch: O’r fath wir ddedwyddwch yw. Addfwyn Iesu, dangos yma ar dy fwrdd d’ogoniant mawr, megis gynt wrth dorri bara ymddatguddia inni […]
Torrwn fara ar ein gliniau yn gytûn, torrwn fara ar ein gliniau yn gytûn, a phan rof fy ngliniau i lawr gan wynebu haul y wawr, O Dduw, bydd drugarog wrthyf fi. Yfwn win ar ein gliniau yn gytûn, yfwn win ar ein gliniau yn gytûn, a phan rof fy ngliniau i lawr gan wynebu […]
Torrwn y bara i rannu o gorff Crist yn awr. (Dynion) Torrwn y bara i rannu o gorff Crist yn awr. (Merched) Ry’m ni yn llawer, ond un yw’r corff, Ac felly’n bwyta a rhannu o’r un dorth. (Ailadrodd) Yfwn o gwpan cyfamod trugaredd ein Duw. (Dynion) Yfwn o gwpan cyfamod trugaredd ein Duw. (Merched) […]
Gwasanaeth y Cymun (Tôn: Arizona, 662 Caneuon Ffydd) Tywysiast ni o’r byd a’i ru, i’th dawel hedd, Waredwr cu; am fraint mor fawr o gael cyd-gwrdd, a diolch down o gylch dy fwrdd. Pâr inni weld, trwy lygaid gwas ffordd barod, rad, dy ddwyfol ras, can’s dysgaist ni, trwy siampl fad i olchi traed, ni […]