Yr Iesu a deyrnasa’n grwn o godiad haul hyd fachlud hwn; ei deyrnas â o fôr i fôr tra byddo llewyrch haul a lloer. Teyrnasoedd, pobloedd o bob iaith, i’w gariad rhoddant foliant maith; babanod ifainc, llon eu llef yn fore a’i clodforant ef. Lle y teyrnaso, bendith fydd; y caeth a naid o’i rwymau’n […]