Cofir mwy am Fethlem Jwda, testun cân pechadur yw; cofir am y preseb hwnnw fu’n hyfrydwch cariad Duw: dwed o hyd pa mor ddrud iddo ef oedd cadw’r byd. Cofir mwy am Gethsemane lle’r ymdrechodd Mab y Dyn; cofir am y weddi ddyfal a weddïodd wrtho’i hun: dwed o hyd pa mor ddrud iddo ef […]
Dod ar fy mhen dy sanctaidd law, O dyner Fab y Dyn; mae gennyt fendith i rai bach fel yn dy oes dy hun. Wrth feddwl am dy gariad gynt o Fethlehem i’r groes mi garwn innau fod yn dda a byw er mwyn oes. Gwna fi yn addfwyn fel tydi wrth bawb o’r isel […]
Efengyl tangnefedd, O rhed dros y byd, a deled y bobloedd i’th lewyrch i gyd; na foed neb heb wybod am gariad y groes, a brodyr i’w gilydd fo dynion pob oes. Sancteiddier y ddaear gan Ysbryd y ne’; boed Iesu yn Frenin, a neb ond efe: y tywysogaethau mewn hedd wrth ei draed a […]
Fry yn dy nefoedd clyw ein cri, pob gras a dawn sydd ynot ti; nac oeda’n hwy dy deyrnas fawr, O Dduw ein Iôr, pâr lwydd yn awr. Nid aeth o’n cof dy wyrthiau gynt, y sanctaidd dân a’r bywiol wynt; gwyn fyd na ddeuent eto i lawr, O Dduw ein Iôr, pâr lwydd yn […]
Hollalluog, nodda ni, cymorth hawdd ei gael wyt ti; er i’n beiau dy bellhau, agos wyt i drugarhau; cadw ni o fewn dy law, ac nid ofnwn ddim a ddaw; nid oes nodded fel yr Iôr, gorfoledded tir a môr! Hollalluog, nodda ni, trech na gwaethaf dyn wyt ti; oni fuost inni’n blaid ymhob oes […]
Molwn di, O Dduw ein tadau, uchel ŵyl o foliant yw; awn i mewn i’th byrth â diolch ac offrymwn ebyrth byw; cofiwn waith dy ddwylo arnom a’th amddiffyn dros ein gwlad; tithau, o’th breswylfa sanctaidd, gwêl a derbyn ein mawrhad. Ti â chariad Tad a’n ceraist yn yr oesoedd bore draw, o dywyllwch i […]
Un fendith dyro im, ni cheisiaf ddim ond hynny: cael gras i’th garu di tra bwy’, cael mwy o ras i’th garu. Ond im dy garu’n iawn caf waith a dawn sancteiddiach, a’th ganlyn wnaf bob dydd yn well ac nid o hirbell mwyach. A phan ddêl dyddiau dwys caf orffwys ar dy ddwyfron, ac […]