Iesu, Geidwad bendigedig, ffrind yr egwan a’r methedig, tyner ydwyt a charedig; rho dy ras yn nerth i ni. Iesu, buost gynt yn faban yn y llety tlawd, anniddan; Brenin nef a daear weithian, dirion Arglwydd, ydwyt ti. Iesu, drosom buost farw ar y croesbren creulon, garw: dirfawr werth yr aberth hwnnw egyr byrth y […]
O faban glân, O faban mwyn, mor hardd dy wedd, mor ŵyl dy drem: o’r nef fe ddaethost inni’n Frawd, â ni yn gydradd, ddynion tlawd, O faban glân, O faban mwyn. O faban glân, O faban mwyn, llawn o’th lawenydd yw ein byd: cysuron nef a roddi di bawb mewn poen a gyfyd gri, […]