Awn at ei orsedd rasol ef, dyrchafwn lef i’r lan; mae’n gwrando pob amddifad gri, mae’n rhoddi nerth i’r gwan. Anadla, f’enaid llesg, drwy ffydd, mae’r ffordd yn rhydd at Dduw; mae gras yn gymorth hawdd ei gael, a modd i’r gwael gael byw. Gerbron y drugareddfa lân fe gân yr euog rai; mae iachawdwriaeth […]
O dewch i’r dyfroedd, dyma’r dydd, yr Arglwydd sydd yn galw; tragwyddol ras yr Arglwydd Iôr sydd fel y môr yn llanw. Heb werth nac arian, dewch yn awr, mae golud mawr trugaredd â’i ŵyneb ar yr euog rai – maddeuant a’i ymgeledd. O dewch a phrynwch win a llaeth, wel dyma luniaeth nefol; prynwch […]
Saif brenhiniaeth fawr yr Iesu a’i gorseddfa’n fythol lân, saif ei heddwch yn dragywydd, saif ei chysur byth a’i chân; hedd, maddeuant, meddyginiaeth, iachawdwriaeth ynddi a gaed; gras sydd drwyddi yn teyrnasu, deddf yn gwenu yn y gwaed. Saif heb siglo yn dragwyddol eiriau yr anfeidrol Fod, saif ei gyngor a’i gyfamod pan ddatodo rhwymau’r […]