Byd newydd yw ein cri, Byd newydd yw ein cri; Byd newydd yw ein cri, Byd newydd yw ein cri. O chwifiwn faner tegwch uwchben y gwledydd. A tharo drymiau hedd ymysg cenhedloedd. Fe glywir sain trefn newydd yn dynesu. Cariad Duw lifa ’gylch y byd gan ddwyn rhyddid! O cydiwn ddwylo’n gilydd ar draws […]
Dy gariad di sy’n estyn hyd y nefoedd; A’th wir ffyddlondeb sy’n estyn hyd y nen; Fel cadarn fynydd saif dy hardd gyfiawnder. Mor werthfawr yw dy gariad drud. Dyrchafaf di, O, fy Iôr, Dyrchafaf di, O, fy Iôr; Clod i’th enw glân, Cân fy nghalon fawl i ti – Dyrchafaf di, O, fy […]
Iesu, rhown iti bob anrhydedd, Iesu, rhown iti yr holl glod. Uned dae’r a nef i ddyrchafu Yr enw sydd goruwch holl enwau’r rhod. O, plygwn bawb ein glin mewn gwir addoliad, Can’s plygu glin yw’n dyled ger ei fron. Cyffeswn bawb yn awr Ef yw’r Crist, Ef yw Mab Duw, Frenin Iôr, clodforwn di […]