Boed mawl i Dduw gan engyl nef a chlod gan ddynion fyrdd; mor rhyfedd yw ei gariad ef, mor gyfiawn yw ei ffyrdd. Mor ddoeth yw cariad Duw at ddyn sydd wan dan faich ei fai: yn ddyn mewn cnawd daeth Duw ei hun i’w nerthu a’i lanhau. O’i gariad doeth, ein Duw mewn cnawd […]
Canwn fawl i’r Iesu da, Haeddu serch pob plentyn wna; Molwn Grist â llawen lef, Cyfaill gorau plant yw ef. Cytgan: Iesu fo’n Harweinydd, Iesu’n Hathro beunydd, Ceidwad mad plant bach pob gwlad, Fe’i molwn, molwn, Molwn yn dragywydd. Carai fel ei Dad o’r ne’, Byw i eraill wnâi efe; Drosom aeth i Galfari, Caru’r […]
Engyl glân o fro’r gogoniant hedant, canant yn gytûn; clywch eu llawen gân uwch Bethlem, “Heddiw ganwyd Ceidwad dyn”: dewch, addolwn, cydaddolwn faban Mair sy’n wir Fab Duw, dewch, addolwn, cydaddolwn Iesu, Ceidwad dynol-ryw. Mwyn fugeiliaid glywsant ganu a hwy’n gwylio’u praidd liw nos; gwelent Dduw ar ddyn yn gwenu yng ngoleuni’r seren dlos: dewch, […]