logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dragwyddol, hollalluog Iôr

Dragwyddol, hollalluog Iôr, Creawdwr nef a llawr, O gwrando ar ein gweddi daer ar ran ein byd yn awr. O’r golud anchwiliadwy sydd yn nhrysorfeydd dy ras, diwalla reidiau teulu dyn dros ŵyneb daear las. Yn erbyn pob gormeswr cryf O cymer blaid y gwan; darostwng ben y balch i lawr a chod y tlawd […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 30, 2015

Llefara, Iôr, nes clywo pawb

Llefara, Iôr, nes clywo pawb dy awdurdodol lais, a dyro iddynt ras i wneud yn ôl dy ddwyfol gais. Goresgyn, â galluoedd glân dy deyrnas fawr dy hun, bob gallu a dylanwad drwg sydd yn anrheithio dyn. Teyrnasa dros ein daear oll, myn gael pob gwlad i drefn: O adfer dy ddihalog lun ar deulu […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 12, 2015

Tyred, Arglwydd Iôr, i lawr

Tyred, Arglwydd Iôr, i lawr; tyred yn dy gariad mawr; tyred, una ni bob un yn dy gariad pur dy hun. O llefara air yn awr, gair a dynn y nef i lawr; ninnau gydag engyl nen rown y goron ar dy ben. Yma nid oes gennym ni neb yn arglwydd ond tydi; ac ni […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 12, 2015