O tyred, Iôr tragwyddol, mae ynot ti dy hun fwy moroedd o drugaredd nag a feddyliodd dyn: os deui at bechadur, a’i godi ef i’r lan, ei galon gaiff, a’i dafod, dy ganmol yn y man. Gwaredu’r saint rhag uffern a phechod drwg ei ryw, o safn y bedd ac angau, a’u dwyn i fynwes […]
O! Enw annwyl iawn, Anwylaf un yn bod; Ni chlywodd engyl nef Gyffelyb iddo ‘rioed: Rhof arno ‘mhwys, doed dydd, doed nos, Fe’m deil i’r lan dan bob rhyw groes. Cryf yw ei ddehau law, Anfeidrol yw ei rym, Ac nid oes byth a saif O flaen ei ŵyneb ddim: Rhois iddo f’hun, f’amddiffyn wna […]
O! foroedd o ddoethineb Oedd yn y Duwdod mawr, Pan fu’n cyfrannu ei gariad I dlodion gwael y llawr; A gwneuthur ei drugaredd, A’i faith dosturi ‘nghyd I redeg megis afon Lifeiriol dros y byd. Rhyw ddyfnder maith o gariad, Lled, annherfynol hyd, A redodd megis dilyw Diddiwedd dros y byd; Yn ateb dyfnder eithaf […]
O! Iesu’r archoffeiriad mawr, Rhof f’enw ar dy fraich i lawr; Rho eilwaith, mewn llythrennau clir, Ef ar dy ddwyfron sanctaidd bur. Fel pan ddêl arnaf bob rhyw dro, Y byddwyf byth o fewn dy go’, Na byddo arnaf unrhyw faich Ond a fo’n pwyso ar dy fraich. O! gwna fy nghariad innau’n rhydd I […]
O! Tyrd i ben, ddedwyddaf ddydd, A caffo f’ysbryd fynd yn rhydd; O Grist rho braw ar frys i mi O ddwyfol haeddiant Calfari. Er mwyn im rodio’n ddinacâd, Dan awel hyfryd rin y gwaed; A threulio f’amser ddydd a nos, Mewn myfyr am dy angau loes. O! na boed gras o fewn y nef […]
O! Tyred addfwyn Oen, Iachawdwr dynol-ryw, At wael bechadur sydd dan boen Ac ofnau’n byw; O! helpa’r llesg yn awr I ddringo o’r llawr yn hy, Dros greigiau geirwon serth, i’r lan I’r Ganaan fry. O! Dal fi, ‘rwyf heb rym, Yr ochor hon na thraw; Os sefyll wnaf, ni safaf ddim Ond yn dy […]
O! Uchder heb ei faint, O! Ddyfnder heb ddim rhi’, O! led a hyd heb fath, Yw’n hiachawdwriaeth ni: Pwy ŵyr, pwy ddwed – seraffiaid, saint, O’r ddaer i’r nef, beth yw fy mraint? Mae’r ddaear a’i holl swyn Oll yn diflannu’n awr; A’i themtasiynau cry’ Sy’n cŵympo’n llu i’r llawr; Holl flodau’r byd sydd […]
O! Ysbryd sancteiddiolaf, Anadla arna’ i lawr O’r cariad anchwiliadwy Sy ‘nghalon Iesu mawr; Trwy haeddiant Oen Calfaria, Ac yn ei glwyfau rhad, ‘Rwy’n disgwyl pob rhyw ronyn O burdeb gan fy Nhad. O! Ysbryd pur nefolaidd, Cyn elwy’ i lawr i’r bedd, Trwy ryw athrawiaeth hyfryd, Gad imi brofi o’th hedd: Maddeuant, O! maddeuant, […]
Os yw tegwch d’ŵyneb yma yn rhoi myrdd i’th garu nawr, beth a wna dy degwch hyfryd yna’n nhragwyddoldeb mawr? Nef y nefoedd a’th ryfedda fyth heb drai. Pa fath uchder fydd i’m cariad, pa fath syndod y pryd hyn, pryd y gwelwyf dy ogoniant perffaith, llawn ar Seion fryn? Anfeidroldeb o bob tegwch maith […]
Pam ‘r ofna f’enaid gwan Wrth weld aneirif lu Yn amau bod im ran A hawl yn Iesu cu? Gwn mai dy-lyth wirionedd yw Fod cariad Duw yn para byth. A ddiffydd cariad rhad? Ai ofer geiriau Duw? A gollir rhinwedd gwaed Ac angau Iesu gwiw? Gwn mai dy-lyth wirionedd yw Fod cariad Duw yn […]