O! Iachawdwr pechaduriaid, Sydd â’r gallu yn dy law; Rho oleuni, hwylia f’enaid, Dros y cefnfor garw draw; Gad i’r wawr fod rhag fy wyneb, Rho fy enaid llesg yn rhydd, Nes i’r heulwen ddisglair godi, Tywys fi wrth y seren ddydd. O! ynfydrwydd, O! ffolineb, Im erioed oedd rhoi fy mryd, Ar un tegan, […]
O iachawdwriaeth gadarn, O iachawdwriaeth glir, ‘fu dyfais o’i chyffelyb erioed ar fôr na thir; mae yma ryw ddirgelion, rhy ddyrys ŷnt i ddyn, ac nid oes all eu datrys ond Duwdod mawr ei hun. ‘Does unpeth ennyn gariad yn fflam angerddol gref, addewid neu orchymyn, fel ei ddioddefaint ef; pan roes ei fywyd drosom […]
O Iesu mawr, y Meddyg gwell gobaith yr holl ynysoedd pell, dysg imi seinio i maes dy glod mai digyfnewid wyt erioed. O hoelia ‘meddwl, ddydd a nos, crwydredig, wrth dy nefol groes, a phlanna f’ysbryd yn y tir sy’n llifo o lawenydd pur: fel bo fy nwydau drwg yn lân yn cael eu difa […]
O! llefara’ addfwyn Iesu, mae dy eiriau fel y gwin, oll yn dwyn i mewn dangnefedd ag sydd o anfeidrol rin; mae holl leisiau’r greadigaeth, holl ddeniadau cnawd a byd, wrth dy lais hyfrytaf, tawel yn distewi a mynd yn fud. Ni all holl hyfrydwch natur, a’i melystra penna’ i maes, fyth gymharu â lleferydd […]
O! na bai cystuddiau f’Arglwydd Yn fy nghalon yn cael lle – Pob rhyw loes, a phob rhyw ddolur, Pob rhyw fflangell gafodd E’; Fel bo i’m pechod Ildio’r dydd a mynd i maes. Ti dy Hunan yno’n Frenin, Ti dy Hunan yno’n Dduw, D’eiriau d’Hunan yno’n uchaf- D’eiriau gwerthfawroca’u rhyw; Ti wnei felly Bydew […]
O na foed ardal cyn bo hir, o’r dwyrain i’r gorllewin dir, na byddo’r iachawdwriaeth ddrud yn llanw cyrrau’r rhain i gyd. Dewch, addewidion, dewch yn awr dihidlwch eich trysorau i lawr; myrddiynau ar fyrddiynau sydd yn disgwyl am y bore ddydd. Doed gogledd, de a dwyrain pell i glywed y newyddion gwell, ac eled […]
O nefol addfwyn Oen, sy’n llawer gwell na’r byd, a lluoedd maith y nef yn rhedeg arno’u bryd, dy ddawn a’th ras a’th gariad drud sy’n llanw’r nef, yn llanw’r byd. Noddfa pechadur trist dan bob drylliedig friw a phwys euogrwydd llym yn unig yw fy Nuw; ‘does enw i’w gael o dan y nef […]
O! sancteiddia f’enaid Arglwydd, ymhob nwyd ac ymhob dawn; rho egwyddor bur y nefoedd yn fy ysbryd llesg yn llawn: n’ad im grwydro draw nac yma fyth o’m lle. Ti dy hunan all fy nghadw rhag im wyro ar y dde, rhedeg eilwaith ar yr aswy, methu cadw llwybrau’r ne’: O tosturia, mewn anialwch rwyf […]
O tyrd ar frys, Iachawdwr mawr, disgynned d’Ysbryd yma i lawr; rho nerth i bawb o deulu’r Tad gydgerdded tua’r hyfryd wlad. Cyd-fynd o hyd dan ganu ‘mlaen, cyd-ddioddef yn y dŵr a’r tân, cydgario’r groes, cydlawenhau, a chydgystuddio dan bob gwae. Duw, tyrd â’th saint o dan y ne’, o eitha’r dwyrain pell i’r […]
O tyred, Arglwydd mawr, dihidla o’r nef i lawr gawodydd pur, fel byddo’r egin grawn, foreddydd a phrynhawn, yn tarddu’n beraidd iawn o’r anial dir. Mae peraroglau gras yn taenu o gylch i maes awelon hedd; estroniaid sydd yn dod o’r pellter eitha’ ‘rioed, i gwympo wrth dy droed a gweld dy wedd. Mae tegwch […]