Am ffydd, nefol Dad, y deisyfwn, i’n cynnal ym mrwydrau y byd; os ffydd yn dy arfaeth a feddwn, diflanna’n hamheuon i gyd; o gastell ein ffydd fe rodiwn yn rhydd ac ar ein gelynion enillwn y dydd. Am obaith, O Arglwydd, erfyniwn, i fentro heb weled ymlaen; os gobaith dy air a dderbyniwn, daw’r […]
Dyma’r dydd i gyd-foliannu Iesu, Prynwr mawr y byd, dyma’r dydd i gyd-ddynesu mewn rhyfeddod at ei grud; wele’r Ceidwad yma heddiw’n faban bach. Daeth angylion gynt i Fethlem i groesawu Brenin nef, daeth y doethion a’r bugeiliaid yno at ei breseb ef; deuwn ninnau heddiw’n wylaidd at ei grud. Deued dwyrain a gorllewin i […]
Gariad dwyfol uwch bob cariad, Londer nefoedd, tyrd i lawr; Ynom ninnau gwna dy drigfa, A chorona d’arfaeth fawr; Iesu, llawn tosturi ydwyt, Cariad annherfynol pur, Moes i ni dy iachawdwriaeth, Tyrd i esmwytháu ein cur. Tyrd, anfeidrol i waredu, Rho dy ras i’th bobl i gyd; Dychwel atom ni yn ebrwydd, Yn dy demlau […]
Mawl i Dduw am air y bywyd, gair y nef yn iaith y llawr, gair y cerydd a’r gorchymyn, gair yr addewidion mawr; gair i’r cadarn yn ei afiaith, gair i’r egwan dan ei bwn, cafodd cenedlaethau daear olau ffydd yng ngeiriau hwn. Traetha hwn am ddeddfau’r Arglwydd a gwynfydau Mab y Dyn, am yr […]
Moliannwn ein Tad yn y nefoedd, cynlluniwr y cread i gyd, Creawdwr y sêr a’u niferoedd, Cynhaliwr holl fywyd y byd; ei enw sydd fawr drwy’r nefoedd a’r llawr, ymuned plant dynion i’w foli yn awr. Mawrygwn y Mab, ein Gwaredwr a ddaeth yn y cnawd atom ni, a rodiodd yn isel ei gyflwr a […]
O Arglwydd Dduw, sy’n dal colofnau’r cread a thynged nef a daear yn dy law, rho inni ras i dderbyn trefn dy gariad heb ryfyg ffôl nac ofnau am a ddaw; cans er pob dysg a dawn a roed i ni nid oes i’n bywyd ystyr hebot ti. Tywyll yw’r ffordd i ni drwy ddryswch […]
O! Rhowch fawredd i’n Duw ni, y Graig, Ei waith sydd berffaith a chyfiawn ei holl ffyrdd; O! Rhowch fawredd i’n Duw ni, y Graig, Ei waith sydd berffaith a chyfiawn ei holl ffyrdd; Duw llawn ffyddlondeb yw a heb anghyfiawnder, Da a chyfiawn yw ef. Duw llawn ffyddlondeb yw a heb anghyfiawnder, Da a […]
Sicrwydd bendigaid! Iesu yn rhan, Hyn ydyw ernes nef yn y man; Aer iachawdwriaeth, pryniant a wnaed, Ganed o’r Ysbryd, golchwyd â’i waed. Dyma dy stori, dyma fy nghân, Canmol fy Ngheidwad hawddgar a glân; Dyma dy stori, dyma fy nghân, Canmol fy Ngheidwad hawddgar a glân. Ildio’n ddiamod, perffaith fwynhad, Profi llawenydd nefol ryddhad; […]