Anfeidrol Greawdwr a Thad, rhagluniwr holl oesoedd y llawr: er trigo uwchlaw pob mawrhad, O derbyn ein diolch yn awr. Wrth gofio dy ddoniau erioed rhyfeddwn dosturi mor fawr: anfeidrol Greawdwr a Thad, rhagluniwr holl oesoedd y llawr. Afonydd dy gariad di-drai yw trefn dy ragluniaeth i gyd, ac nid yw eu ffrydiau yn llai […]
Ganol gaeaf noethlwm cwynai’r rhewynt oer, ffridd a ffrwd mewn cloeon llonydd dan y lloer: eira’n drwm o fryn i dref, eira ar dwyn a dôl, ganol gaeaf noethlwm oes bell yn ôl. Metha nef a daear gynnwys ein Duw; ciliant hwy a darfod pan fydd ef yn llyw: ganol gaeaf noethlwm digon beudy trist […]
Llifa ataf, fôr tragywydd, gyr dy ddyfnder oddi draw; cuddia’r ogofeydd a’r creigiau sy’n fy mygwth ar bob llaw: sŵn dy ddyfroedd yw fy ngobaith pan ddymchwelont, don ar don, ac nid oes ond ti a’m cyrraedd ar y draethell unig hon. Gwelaf dros dy lanw nerthol oleuadau’r tiroedd pell lle mae Duw yn troi […]
Pan ddryso llwybrau f’oes, a’m tynnu yma a thraw, a goleuadau’r byd yn diffodd ar bob llaw, rho glywed sŵn dy lais a gweld dy gadarn wedd yn agor imi ffordd o obaith ac o hedd. Pan ruo storom ddu euogrwydd dan fy mron, a Satan yn ei raib yn trawsfeddiannu hon, O tyn y […]