O’r fath geidwad rhyfeddol yw Iesu, O’r fath geidwad rhyfeddol i ni; Gan roi heibio ogoniant y nefoedd Daeth ei hun i’w groes ar Galfari. Cân Hosanna, cân Hosanna, Cân Hosanna rown i frenin nef: Cân Hosanna, Pêr Hosanna, Cân Hosanna iddo Ef. Atgyfoddodd o’r bedd, Haleliwia! A bydd yntau am byth yn fyw; Ar […]
Pwy sy’n dod i Salem dref? Iesu’n Llywydd: taenwn ar ei lwybrau ef gangau’r palmwydd; rhoddwn iddo barch a chlod mewn Hosanna; atom ni mae heddiw’n dod Haleliwia! Pwy sy’n dod drwy byrth y bedd yn orchfygwr? Iesu Grist, Tywysog hedd, ein Gwaredwr: mae ei fryd ar wella’r byd o’i ddoluriau; rhoddwn iddo oll ynghyd […]
Pwy yw hwn? Mae’r gwynt a’r moroedd Yn adnabod tôn ei lais, A rhyferthwy’r blin dymhestloedd Sy’n tawelu ar ei gais. O! llefared Iesu eto I dawelu ofnau’r fron; Doed tangnefedd llawn i drigo Yn y galon euog hon. Pwy yw hwn? Yr addfwyn tyner, Cyfaill yr anghenus gwael; Ni bu neb dan faich gorthrymder […]
Wnest ti ddim disgwyl Dduw I mi ddod yn nes, Ond fe wisgaist ti dy hun Ym mreuder dyn. Wnest ti ddim disgwyl im alw arnat ti, Ond fe elwaist ti yn gyntaf arnaf fi. A bydda’ i’n ddiolchgar am byth, Bydda’ i’n ddiolchgar am y groes, Am it ddod i achub rhai coll Byddai’n […]
Y mae in Waredwr, Iesu Grist Fab Duw, werthfawr Oen ei Dad, Meseia, sanctaidd, sanctaidd yw. Diolch, O Dad nefol, am ddanfon Crist i’n byd, a gadael dy Ysbryd Glân i’n harwain ni o hyd. Iesu fy Ngwaredwr, enw ucha’r nef, annwyl Fab ein Duw, Meseia ‘n aberth yn ein lle. Yna caf ei weled […]
Yr afon a lifodd rhwng nefoedd a llawr, Yw gwraidd fy ngorfoledd a’m cysur yn awr; Calfaria roes haeddiant, Calfaria roes hedd; Calfaria sy’n cadw agoriad y bedd. Mae angau ei hunan, ei ofnau a’i loes, Mewn cadwyn gadarnaf yn rhwym wrth dy Groes; Allweddau hen uffern ddychrynllyd i gyd Sy’n hongian wrth ystlys Iachawdwr […]